Beth yw’r un peth pwysicaf rwyf wedi gwneud yn yr ardd hon ers cychwyn ei sefydlu yn 2018? Plannu perth natur gwyllt
Yn aml pan fydda i’n sĂ´n fy mod i’n arddwr organig a ddim yn defnyddio unrhyw blaladdwyr a chemegion gwenwynig yn yr ardd bydd nifer yn gofyn sut ydw i’n ymdopi gyda malwod, lindys a phob math o blâu sy’n effeithio ar dyfiant? Mae sawl ffordd benodol o daclo problemau tebyg ond rwy’n grediniol bod plannu perth naturiol gyda choed cynhenid wedi gweddnewid popeth yn yr ardd.
Mewn 3 blynedd yn unig mae coed bach 30cm a chyn deneued â phensiliau wedi aeddfedu yn berth drwchus sy’n goridor pwysig i bob math o fywyd gwyllt! Rwy’ wrth fy modd yn cerdded lan yr ardd gyda’r bore a gweld pob math o adar bach a phryfed yn byrlymu i mewn i’r berth. Mae’r berth sy’n cynnwys y ddraenen wen, helyg, cerddinen, ysgaw, coed bedw, ffawydd, rhosod gwyllt, gwernen a mieri yn hafan annatod i bopeth sy’n fy helpu i yn yr ardd.
Yr ateb i broblemau fel plâu ydy sicrhau system eco sy’n gyflawn a chyfoeth o fioamrywiaeth. Bydd plannu perthi lle bu ffensys yn gallu gwneud hynny yn sydyn dros ben. Pe bai pob tš newydd yn Ă´l deddf gynllunio yn codi perthi brodorol o’u cwmpas yn lle ffensys byddai’r amgylchfyd ar ei ennill yn fawr Mae gymaint o bwyslais ar blannu coed (ac nid coed brodorol yn aml) a hynny ar erwau o dir amaethyddol llewyrchus ond beth amdanom ni yn ein pentrefi a’n trefi? Gallwn ni gyd wneud gwahaniaeth hefyd wrth blannu perthi a choed a dod â bywyd newydd i’n gerddi bob un
