Plannu Tiwlipau

Pwy sydd wedi bod yn plannu tiwlipau yn ystod y dyddiau diwethaf 😃🌷?

Bob blwyddyn fydda i’n prynu llwyth o fylbiau (mor gryf yw’r temtasiwn) ac yna yn anghofio amdanynt nes y Nadolig ac wedyn yn straffaglu i ddod o hyd i botiau neu gorneli yn yr ardd i’w plannu 🙈 Roedd heddiw yn ddiwrnod fel’ny ac yn un llawn hapusrwydd dan heulwen brin yr wythnosau diwethaf ☀️

Rwy’n edmygu gwaith @clausdalby a’r arddangosfeydd hyfryd o fylbiau sydd ganddo bob blwyddyn felly eleni dyma fy ymgais i 🌷 Buan daw mis Ebrill a chroesi bysedd bydd y tiwlipau yn dwyn yr holl sylw yn yr ardd bryd hynny 😃

Cofiwch, gwell plannu bylbiau (hyd yn oed os yn hwyr) na’i gadael i grino mewn bag!