Plannu Tomatos a Basil gyda’i gilydd

Mae tomatos a basil yn gynhwysion allweddol mewn sawl rysáit ac mae blas y ddau yn cydblethu’n arbennig; ond nid yn unig fel bwydydd mae nhw’n ffrindiau da ond wrth dyfu yn yr ardd hefyd.

Bob blwyddyn, bydda i’n eu plannu gyda’i gilydd yn y tŷ gwydr fel welwch yn y llun.

Mae gymaint o fanteision wrth eu plannu gyda’i gilydd. Mae planhigion basil yn helpu atal pryfed a heintiau i ddatblygu ar y tomatos yn ogystal ag affidau a ffyngau. Mae rhai garddwyr hefyd yn mynnu eu bod yn gwella tyfiant a blas y tomatos hefyd. Mae’r ddau blanhigyn angen yr un fath o amgylchedd i dyfu, lle cynnes gyda digonedd o heulwen – mae nhw’n par perffaith!

Felly cofiwch, pan fyddwch chi’n plannu eich planhigion yn yr ardd i ystyried pa blanhigion sydd yn tyfu orau yng nghwmni ei gilydd. ‘Companion planting‘ yw’r term Saesneg am y dull hwn o arddio neu fel rwy’n hoffi dweud yn Gymraeg, Cyfaill-blannu.