Plannu, plannu a mwy o blannu
Mae’r winwns coch, pys, ffa a saladau mewn yn y tir a llwyth o eginblanhigion yn llenwi’r tŷ gwydr
Y ffordd symlaf i blannu winwns ydy gyda dibyr bach fel hyn neu goes brwsh. Rwy’n creu twll a phlannu’r planhigion yn syth mewn. Bydda i’n gadael bwlch o ryw 10cm rhwng pob un â hynny ar gyfer chwynnu rhyngddynt yn rwydd heb ddifrodi’r winwns
Cofiwch ddyfrio’r winwns yn gyson yn ystod y tywydd sych sydd gyda ni ar hyn o bryd, bydd hyn yn eu hatal rhag fynd i had.
