Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydda i’n dechrau gweithio ar brosiect newydd yn yr ardd i symud y twnel tyfu ac yn ei le codi dau dy gwydr arall. Bydd un tŷ gwydr yn union fel y ddau sydd gyda fi’n barod ac felly yn ffurfio rhes o dri. Bydd yr ail un yn dŷ gwydr mawr (10 troedfedd wrth 20 troedfedd) fydd yn mynd yn y bwlch rhwng y sied a’r tŷ gwydr arall
Bues i’n ffodus iawn i gael y tai gwydr yn ail law ac felly heb fawr o gostau ond bydd angen tipyn o waith tacluso a thrwsio arnynt i’w hailgodi. Pam symud y twnel? Wel mae’n ardal gysgodol sy’n golygu bod ochr y twnel yn enwedig yn dioddef diffyg golau.
Fy mwriad gyda’r tŷ gwydr mawr ydy codi planc potio anferth yn rhedeg yr un ochr fel bod modd storio potiau a chompost yno ac yna tyfu grawnwin a phupur yr ochr arall Rwy’n gobeithio dal y cyfan mewn cyfres o fideos a rîls