Prosiect peilot Gerddi Newid Hisawdd Dyffryn Aman

Cefais fore ardderchog gyda chriw o athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd ardal Dyffryn Aman wrth ymweld ag Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli i ddysgu mwy am eu gwaith yn datblygu gardd yr ysgol.

Rwy’n cydweithio â Cyngor Sir Gâr ar brosiect peilot Gerddi Newid Hinsawdd Dyffryn Aman. Nod y prosiect yw sefydlu gerddi ysgol natur gyfeillgar a chynaliadwy ym mhob ysgol yn y cwm. Yn dilyn 6 sesiwn hyfforddiant fydd yr athrawon i gyd yn mynd yn ôl i’w hysgolion i ddatblygu eu gerddi, gweithgareddau tyfu a dysgu agored newydd.

Roedd heddiw yn gyfle gwych i gasglu syniadau a chlywed am siwrnai Ysgol Gymraeg Dewi Sant wrth ddatblygu a chynllunio garddio a’r amgylchedd yn rhan greiddiol o’u cwricwlwm. Rwy’ wedi cydweithio gyda’r ysgol droeon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r gwaith mae nhw’n ei wneud yn ysbrydoledig.

Diolch o galon am y tanllwyth o dân, dishgledi a bisgedi a’r croeso cynnes ym mhob ystyr y gair 😊