Ydych chi’n palu’r ardd?
Dyma eitem ‘Prynhawn Da’ ar S4C lle roeddwn yn trafod, egluro ac yn dangos dull gwahanol a diddorol iawn o arddio, sef y System Dim-palu. Yn union fel mae’r enw’n awgrymu, mae hyn yn ddull lle nad ydych palu’r ardd o gwbwl ond yn lle hynny rydych yn ychwanegu haenen o gompost neu thomwellt ar wyneb y ddaear bob blwyddyn.
Mae’r gwyddoniaeth a’r rhesymeg tu ôl i’r dull hwn yn hynod o ddiddorol ac yn chwyldroadwy yn y byd garddio. Mae’n ffordd llawer haws a mwy effeithlon o arddio sy’n arbed llawer o waith chwynnu a dyfrio er enghraifft, yn ogystal â lleihau straen ar y cefn. O fy mhrofiad i, mae’r system hwn hefyd yn gwella safon y cnwd a faint mor llwythiannus yw’r cynnyrch sy’n dod o’r ardd sy’n golygu mwy o fwyd blasus i’r teulu.
Yn union fel fy nhad-cu, roeddwn arfer palu’r ardd pob blwyddyn ond ers dysgu am y dull hwn oddi wrth Charles Dowding, does dim troi nol – Mae’n fendigedig!
Dyma Adam a chyngor ar sut i osgoi neud gormod o balu yn yr ardd!
Posted by Prynhawn Da S4C on Dydd Mawrth, 1 Medi 2020