Adam Jones
Garddwr profiadol o Orllewin Cymru sydd â dros 15 mlynedd o brofiad garddio.
Rwy’n arddwr Cymreig o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin ac mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad garddio. Fe gychwynodd fy niddordeb yn garddio pan oeddwn yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd fy nhad-cu yn fentor pwysig iawn wrth imi gychwyn meithrin fy sgiliau a’m gwybodaeth garddio. Roedd cenhedlaeth fy nhad-cu yn ysbrydoledig; roeddent i gyd yn garddio a phob un ohonynt yn rhannu eu cyngor diddorol a’u technegau gwahanol gyda’i gilydd ac roeddwn yn mwynhau bod yn rhan o’r gymuned glos hon.
Cefais fy addysg ysgol gynradd yn ysgol y pentref. Roedd Ysgol Gynradd Glanaman yn arloesi i fod yn un o’r ysgolion eco cyntaf yng Nghymru. Yn yr ysgol hon, fe ddysgais bwysigrwydd gwarchod ein hamgylchfyd a garddio mewn cytgord â natur ac mae hyn wedi bod wrth wraidd y ffordd rwy’n garddio hyd heddiw.

Hanes Garddio
Ers yn ifanc iawn, rwyf wedi meithrin yr angerdd a’r ysfa i ddysgu a thyfu mwy o lysiau, ffrwythau a blodau bob blwyddyn ac erbyn hyn mae gennyf wybodaeth eang o dyfu llysiau a ffrwythau o bob math yn ogystal a thyfu blodau tymhorol, planhigion lluosflwydd a phlanhigion brodorol. Mae hyn hefyd wedi magu’r gallu i adnabod planhigion a sut orau i’w tyfu, datrys problemau sy’n eu hwynebu a chynghori pobl ar sut i fynd ati i gynllunio a sefydlu gerddi newydd.
Saith mlynedd yn ôl, aethom ati i brynu ein cartref cyntaf ac ers hynny rwyf wedi sefydlu fy ngardd lysiau newydd fel gwelwch chi ar fy nghyfrif Instagram. Rwy’n defnyddio’r dechneg dim-palu lle nad wyf yn palu’r ardd o gwbl ond yn hytrach yn ychwanegu haenau newydd o gompost bob blwyddyn. Mae’n nod bersonol gennym i geisio byw bywyd mor hunan-gynhaliol ag sydd yn bosib wrth barchu a diogelu natur yr un pryd.

Pryd ddechreuodd Adam yn yr ardd?
Fe ddechreuais fy nghyfrif Instagram @adamynyrardd nôl ym mis Awst 2018 gyda’r bwriad o rannu fy mywyd i, a’m gwraig Sara yn yr ardd a’n taith i fyw bywyd hunan-gynhaliol. Mae’r cyfrif yn cynnwys lluniau o’r ardd, cyngor garddio, hynt a helynt ein hieir, hwyaid a cwêls yn ogystal â rhannu pleserau byw bywyd syml oddi ar y tir.
Mae’r cyfrif Instagram wedi tyfu’n sydyn o fewn blwyddyn i gyrraedd 1,000 o ddilynwyr erbyn mis Mai 2019 ac erbyn hyn mae dros 25,000 o ddilynwyr gennyf. Rwyf wir yn mwynhau’r gymuned arddio ar-lein. Un o brif amcanion sefydlu @adamynyrardd yw creu cynnwys garddio Cymraeg ar y we a thrwy hynny hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn ogystal â rhannu diwylliant a thraddodiadau garddio unigryw Cymru â gweddill y byd.
Profiadau hyd heddiw
Cyfrannu eitemau i’r wasg Gymraeg
Trwy fy nghyfrif Instagram, daeth cyfle i gyfrannu at radio a theledu Cymraeg yn trafod popeth garddio. Rwy’n cyfrannu’n gyson i raglen Bore Cothi, BBC Radio Cymru a’r Sioe Frecwast, BBC Radio Cymru 2.
Rwyf hefyd yn cyfrannu eitemau garddio cyson ar raglenni Prynhawn Da a Heno ar S4C gyda’r ffocws ar rannu tipiau garddio tymhorol ac ymarferol.

Cydweithio â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol a Phrosiect Tyfu’r Dyfodol
Ym mis Mawrth 2020, ddechreuais gydweithio â Phrosiect Tyfu’r Dyfodol i greu cyfres o 20 fideo garddio yn Gymraeg ac yn Saesneg yn trafod pynciau fel cynllunio’r ardd, garddio, sut mae’r ardd yn llesol i’n hiechyd meddwl ymhlith nifer o bynciau eraill. Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf o fideos, fe’m comisiynwyd i gynhyrchu cyfres arall.
Siarad Cyhoeddus
Mae gennyf brofiad eang o siarad mewn digwyddiadau a chyflwyno. Rwyf wedi cynnal sesiynau trafod a ‘holi ac ateb’ i gymdeithasau amrywiol gan gynnwys sesiynnau Zoom ac rwy’n cyfrannu’n gyson i raglenni BBC Radio Cymru mewn perthynas â garddio. Rwyf hefyd wedi cynnal sgyrsiau cymellianol yn rhannu fy mhrofiadau garddio a cheisio annog eraill i fyw bywyd mwy hunan-gynhaliol yn ogystal â chynnal teithiau rhithiol o amgylch ein gardd.
Yng ngorffennaf 2021, daeth cyfle arbennig i gynnal cyfres o sgyrsiau yn sioe garddio RHS Hampton Court yng ngardd ddangos dim-palu Stephanie Hafferty a Charles Dowding. Fe gyflwynais eitem gyfan am yr ardd ar raglen Heno S4C a chynnal dwy sesiwn drafod a chyflwyno yn rhannu sut wnaeth garddio dim-palu gwedd newid y ffordd rwy’n garddio. Gallwch ddarllen mwy am yr hanes wrth ymweld â’r dudalen hon.
