
Dyma fy ymgais gyntaf ar dyfu pys mewn cafn glaw a rwy’n bles iawn â’r canlyniadau.
Fel arfer rwy’n hau pys yn syth i’r ardd ond gyda chynnydd yn nifer y sguthanod yn eu bwyta fe benderfynais eu cychwyn fel hyn eleni.
Y garddwr Geoff Hamilton oedd y cyntaf i gyflwyno’r dull hwn o dyfu pys ac mae gan Huw Richards fideo grêt yn esbonio’r cyfan. Mae’r pys bron yn barod i blannu mas yn yr ardd.