Pys Pêr

Mae cadw’r pys pêr yn eu blodau trwy gydol yr haf yn her flynyddol 😃

Mae eu lliwiau llachar a’u gwynt persawrus yn dod â gymaint o fwynhad i’r ardd ☺️

Mae’r tywydd sych a sefydlog yn wych o ran rhoi llonydd i’r planhigion a’r blodau ffurfio – does dim byd gwaeth na gwyntoedd cryf i’w rhwygo o’i gorsedd liwgar 🌪️ Mae’r sychder mawr, fodd bynnag, yn dechrau effeithio arnynt gyda’r dail yn cychwyn crino a’r planhigion yn amlwg yn awchu am law!💧

Cofiwch ddyfrio’r planhigion yn gyson â pharhau i dorri eu blodau i’w cadw yn y tŷ. Bydd gwneud hyn yn annog y planhigion i barhau i flodeuo tan o leiaf mis Hydref! 💐