Rhiwbob

Y cynhaeaf rhiwbob olaf!

Llynedd, cawsom dymor cymysg gyda’r rhiwbob. Roedd y gwanwyn sych wir wedi effeithio ar ei dyfiant yn gynnar yn y tymor a golygai llai o riwbob i’w gynaeafu. Ond fel ceffyl mewn ras, daeth nol ar y cymal olaf i roi cnwd da iawn yng Ngorffennaf, diolch yn bennaf i’r tywydd gwlyb a gweddol oer.

Rhewais y cnwd yma o rhiwbob i’w ddefnyddio yn ystod y gaeaf gan adael llonydd i’r planhigion sy’n weddill i gryfhau yn barod at y tymor nesaf. Wrth gynaeafu rhiwbob, cofiwch adael o leiaf dwy goes o riwbob ar ôl i helpu’r planhigyn i ffotosyntheiddio a fydd yn rhoi nerth yn ôl i’r Risom/gwreiddiau.