Rhoi trefn ar doriadau planhigion oedd wedi cael lloches yn y tŷ gwydr rhag y tywydd garw yn ystod y gaeaf
Mae gymaint o angen am le yn y tai gwydr erbyn hyn fy mod i wedi penderfynu symud rhain mas i fyd mowr yr ardd! Planhigion fel Nepeta, Salvia, Rhosmari, Lafant a llawer mwy
Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddigon gwydn ond byddai’n eu gorchuddio â gwrthban garddio neu horticultural fleece os daw rhew nodedig. Wedyn fydd y gwaith trawsblannu eginblanhigion i botiau mwy o faint yn gaseg eira go iawn! Mae ‘na brysurdeb bois bach, ond rwy’n dwli ar bob un eiliad