Rysáit Jin Eirin Tagu

Mae mis Tachwedd yn adeg berffaith i fynd ati i gasglu eirin bach duon (eirin tagu neu eirin y perthi yn Gymraeg a ‘sloes’ yn Saesneg). A beth gewch chi well na Jin blasus i rannu yn anrhegion nadolig? Dyma rysáit syml ar gyfer jin eirin tagu:

Cynhwysion

  • 250g eirin tagu (yn ddelfrydol, yn syth o’r rhewgell)
  • 1 litr o jin
  • 3 llwy fwrdd o siwgr

Cyfarwyddiadau

  • Rhowch yr eirin tagu rhewedig ar hambwrdd a’u bwrw â gwaelod sosban trwm neu bin rholio tan bod croen yr eirin wedi rhwygo a bod minlliw piws tywyll yn dechrau glynu wrth yr hambwrdd.
  • Rhowch yr eirin mewn jwg neu jar ac yna ychwanegwch y siwgr a’r jin. Bydda i’n ychwanegu diferyn o ddŵr berw hefyd i greu ychydig yn fwy o jin ac i annog y ffrwythau i ryddhau mwy o sudd.
  • Ysgwydwch yn dda a gadewch i’r ffrwythau a’r jin drwytho am o leiaf tair wythnos cyn ei yfed. Po hiraf y gadewch y ffrwythau i drwytho yn y jin, y dyfnaf a chyfoethocaf y blas, felly gwnewch sawl batsh fel nad oes rhaid ichi aros yn rhy hir.
  • Unwaith eich bod yn hapus â blas y jin, hidlwch a photelwch y cyfan i boteli yn barod i’w cadw am flynyddoedd lawer. Cofiwch, does dim yn well na rhoi potel o jin cartref i deulu a ffrindiau yn anrheg Nadolig.

Gallwch ddarllen mwy ar wefan BBC Cymru Fyw.