
Sbigoglys mewn potyn
Rwy’n dwlu ar dyfu sbigoglys mewn potiau yn barod i gynaeafu eu dail bach i lenwi’r saladau ffres sy’n dod o’r ardd
Y cyfan sydd angen ydy cafn neu botyn o gompost difawn, pecyn o hadau a 3 wythnos o aros!
Rhowch gynnig arni a bydd mwy o ddail blasus gyda chi nag y gallwch fyth fwyta