Setiau Winwns

Rwy’ wedi cael noswaith hyfryd yn yr ardd yn plannu setiau winwns mewn modiwlau a phlannu planhigion bresych a letys yn syth i’r pridd.

Roeddwn i wedi hau hadau winwns yn gynharach eleni ond yn anffodus roedd y gyfradd egino yn wael iawn felly rwy’ wedi penderfynu plannu setiau yn y gobaith o sicrhau cnwd da o winwns. Byddan nhw siŵr o fod rhyw fis yn hwyrach yn aeddfedu ond does dim ots.

Mae garddio yn llawn llwyddiannau yn ogystal â methiannau; mae hyn yn un enghraifft o’r angen i addasu a bod yn hyblyg yn yr ardd er mwyn cael y cnwd gorau posib.