Cipolwg prin iawn ar yr haul heno ‘ma!
Mae’r ardd yn llawn tyfiant sy’n cynnwys toreth o chwyn yn ogystal â chnydau Mae’n gynhyrchiol ac yn denu byd natur ond rwy’n awchu am dywydd braf fel y galla i dreulio tipyn o amser yno yn ystod yr wythnosau nesaf
Mae wedi bod yn chwyrligwgan o flwyddyn ac ar un adeg roeddwn i’n meddwl y byddwn ni’n colli rhan sylweddol iawn o’n gardd ni i berchnogion y tir sy’n ffinio i’r dde! Mae’n dda gyda fi ddweud ein bod wedi llwyddo i sicrhau dyfodol i’r ardd wedi blynyddoedd hir o frwydro! Mae wedi cymryd y gwynt mas o’n hwyliau gyda datblygu’r ardd ymhellach ond rwy’n edrych mlaen i roi hynny i gyd tu cefn i ni a symud mlaen ac aildanio’r angerdd a’r cariad sydd gyda fi tuag at y lle arbennig hwn
Bydda i’n amlygu rhai o’r manylion mewn blog yn y dyfodol agos ond am y tro – hir oes i’r ardd
