Sied SOS

Wel mae gas gweld y sied botio ar hyn o bryd gyda thrugareddau wedi’u twlu ym mhob cyfeiriad ‘ma 🙈

Mae hwn yn digwydd bob blwyddyn wrth gwrs wrth whilmentan am y potyn maint cywir, chwilio am gortyn i glymu’r pys, pendroni le hwpes i fy hoff gyllell boced ac yn y blaen!

Fe ddaw trefen yn ôl i’r sied rhyw bryd rhwng nawr a’r hydref pan fydd prysurdeb mowr y gwanwyn a’r ben. Felly os yw’ch sied cynddrwg â hwn neu’ch tŷ gwydr yn anniben, pacha becso – mae’n arwydd eich bod yn garddio fflat owt a dyna sy’n bwysig 😃🌻