
Mae siwt gymaint o bethau allwn wneud i helpu ein planhigion bach newydd yn yr ardd!
Un tip pwysig wrth hau hadau yw gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio compost ysgafn heb lawer o ddarnau neu lympiau ynddo!
Bydda i bob tro yn sifio’r compost gyda sife i dynnu’r darnau bach o bren a cherrig mân oddi yno. Mae angen sicrhau nad yw’r hadau bach yn cael trafferth egino gan fod ‘na lympiau mawr yn rhwystro eu siwrnai fach gyffrous i’r byd!