Ar ôl arbrofi yn tyfu sinsir llynedd fe es ati i roi cynnig arni unwaith eto eleni ac rwy’n hapus iawn gyda’r cnwd.
Fe dyfais i’r sinsir hwn yn y tŷ gwydr tan ganol Mehefin ac wedyn yn yr ardd ers hynny.
Un wers bwysig rwy’ wedi dysgu o’i dyfu llynedd ac eleni yw gwneud yn siŵr fy mod yn ei gynaeafu cyn gormodedd o law mis Tachwedd. Gollais i hanner y cnwd llynedd wrth iddo bydru yn y pridd.
Y cwbl sydd ei angen arnoch chi ydy darn bach o wreiddyn sinsir (o’r archfarchnad os nad oes peth yn eich canolfan arddio leol), potyn 15 litr neu fwy o gompost a digonedd o ddŵr yn ystod yr haf.
Rwy’n bwriadu sychu hwn nawr a’i ddefnyddio i goginio adeg y Nadolig. Bydda i’n ceisio cadw darn neu ddau i dyfu planhigion newydd eto flwyddyn nesaf.