Sut i hau hadau tomato?

Oeddech chi’n gwybod bod modd tyfu planhigion tomato yn yr awyr agored yng Nghymru? Nid oes angen tŷ gwydr neu dwnel tyfu arnoch bob tro. Mae gwres yn help mawr wrth dyfu tomatos, ond heulwen sydd bwysicaf. Mae angen oddeutu 8 awr o olau dydd arnoch ganol yr haf i sicrhau’r cnydau gorau, felly gofalwch eich bod yn eu plannu mewn man heulog yn yr ardd.

Mae mis Mawrth yn adeg berffaith i hau hadau tomato yn barod am y tymor tyfu newydd ac yn y clip hwn ffilmiais ar gyfer rhaglen Prynhawn Da rwy’n ein tywys drwy’r broses o hau hadau tomato, cam wrth gam:

Adam yn yr Ardd

Dyma Adam yn yr Ardd yn dangos i ni sut ma tyfu tomato 🍅

Adam yn yr ardd

Posted by Prynhawn Da S4C on Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021