Rwy wrth fy modd yn bwyta a choginio jam. Y peth gorau i mi yw allu fynd rownd y caeau lleol a phigo mwyar duon ym mis Awst/Medi yn barod i’w goginio – chewch chi ddim gwell!
Yn y fideo hwn, rwy’n rhannu rysáit syml a dangos sut rwy’n mynd ati i wneud jam mwyar duon cartref, ond mae modd addasu’r un rysáit ar gyfer pob math o ffrwythau.
Am fwy o wybodaeth am brosiect Tyfu’r Dyfodol, ewch i: https://garddfotaneg.cymru/science/gr…