Mae’r ardd yn ffrwydro llawn tyfiant ar hyn o bryd felly dyma daith ichi o amgylch yr ardd i ddangos beth sydd yn tyfu a datblygiadau cyffrous newydd. Yn y fideo hwn rwy’n rhannu cyngor ar sut i ofalu am ein planhigion yn y tai gwydr, denu peillwyr i’r ardd, arbrofi gyda thatws a sefydlu cychod gwenyn mêl newydd yn y berllan.