Llwyddais i dynnu llun o’r tiwlipau cyn y glaw mawr!
Plannais i rhain yn hwyr eleni mewn hast gwyllt ond mae nhw dal wedi dod â border llawn lliw!
Cofiwch dynnu unrhyw bennau marw bylbiau gwanwyn yn syth i atal y planhigion rhag gwastraffu egni yn creu hadau… gwell yn yr achos hwn bod yr egni yn dychwelyd yn ôl i’r bwlbyn. Ffîd da o nitrogen a photasiwm rhywbeth fel liquid seaweed a fydd rhain gobeithio yn dod yn ôl llawn blodau flwyddyn nesaf