Tyfu Tiwlipau
Heddiw, fe blannais i 4 cafn llawn tiwlipau newydd i’r ardd Mae’r cyferbyniad rhwng plannu bylbiau, bywyd newydd, a hynny ar adeg pan fydd y meddwl a’r tywydd yn aml yn ein hannog i arafu a chwtsho lân wastad yn fy synnu
Rwy’n barod i dderbyn bod y tymor tyfu eleni ar ffo a’r ardd yn cychwyn tawelu ond eto mae’r tiwlipau hyn yn mynnu cicio yn erbyn y tresi a chychwyn ar siwrnai go iawn Byddan nhw’n tyfu’n araf dan bridd oer a thamp yn barod i godi eu pennau’n osgeiddig ym mis Ebrill a hawlio pob sylw yn yr ardd
Mae tyfu bylbiau gwanwyn yn rhywbeth gallwn ni gyd wneud! Mae nhw’n tyfu’n arbennig o dda mewn potiau wrth stepen y drws ac mae’r cyfnod rhwng nawr a’r Nadolig yn adeg berffaith i blannu pob math o fylbiau fel tiwlipau, aliwm a muscari