
Ddoe cefais gyfle i dacluso dail y mefus, chwynnu’r gwely a chael gwared ar hen dyfiant diangen
Fel reol rwy’n codi’r dail marw i gyd a hefyd yn tocio y rhan fwyaf o’r dail sydd ar ôl lawr i goron y planhigion mefus. Bydda i hefyd yn sicrhau nad yw’r goron yn is na lefel y pridd ac yn tynnu’r planhigion lan ychydig yn garcus ond heb eu dadwreiddio (dim ond os oes rhaid). Mae hwn yn helpu yn erbyn pydru.
Fel arfer byddwn i wedyn yn gosod haenen o wellt oddi tan y mefus i’w gwarchod rhag y tywydd oeraf ond eleni rwy’ wedi penderfynu arbrofi gyda thomwellt gwahanol a defnyddio gwellt Llin neu ‘Flax’ (Linum usitatissimum). Mae modd prynu sach go fawr o wellt llin wrth unrhyw gyflenwr amaethyddol ac mae’n weddol rhad. Un o’r prif resymau dros ddefnyddio hwn yn lle gwellt arferol yw ein hinsawdd gwlyb yma yng Nghymru
Rwy’ wedi sylweddoli bod gwellt yn pydru’n sydyn ac yn creu tipyn o lwydni ar y ffrwyth ac roedd gwlân ychydig yn rhy drwm. Yn ôl pob tebyg nid yw gwellt llin yn amsugno gymaint o wlybaniaeth nac yn pydru’n sydyn, mae’n ddigon mân i’r planhigion wreiddio ynddo ac mae hefyd yn gallu atal pryf bach fel affidau rhag ymosod ar y planhigion gan fod ei liw golau yn eu twyllo i feddwl mai dŵr yw’r tomwellt
Rwy’n eithaf bodlon hyd yn hyn ei fod yn neud ei waith yn iawn ond fe wnai rhoi diweddariad eto yn hwyrach yn y tymor. Ond cofiwch, mae tomwellt i’r ardd cyfystyr â grefi i ginio dydd Sul…mae’n annatod! Felly ewch i domwelltio fflat owt rhwng nawr a’r gwanwyn
