
Cefais ddiwrnod arbennig yn yr ardd yn tomwelltio’r gwlâu gyda haenen hyfryd o dail ceffyl sydd wedi’i bydru’n dda
Mae adfywio’r pridd gyda gwrtaith organig bob blwyddyn yn hynod bwysig – mae’n cyflyru’r microrganebau i wneud eu gwaith pwysig wrth gynnal strwythur pridd iach a ffyniannus Rwy’n defnyddio cymysgedd o domwellt amrywiol gan gynnwys tail ceffyl, gwartheg, ffowls a hwyaid, rhisgl coed neu sglodion pren, compost a gwellt llin (flax straw). Rwy’ hefyd yn defnyddio’r deunydd organig naturiol sydd yn yr ardd wrth ddefnyddio’r dull ‘torri heb gasglu’ (chop and drop) sy’n golygu torri coesynnau’r planhigion a’u gadael i bydru wrth waelod y planhigion gwreiddiol
Bydda i’n tomwelltio fflat owt rhwng nawr a mis Mawrth – sylfeini cadarn i dymor tyfu newydd