
Mae’r toriadau rhosod yn tyfu’n dda yng nghysgod y tŷ gwydr. Mae gwneud toriadau yn ffordd arbennig o dda o greu planhigion newydd am ddim.
Mae’r gwanwyn neu’n gynnar yn yr haf yn adeg berffaith i wneud toriadau rhosod neu unrhyw blanhigyn lluosflwydd prennog. Mae modd gwneud toriadau yn ystod yr Hydref hefyd fel y gwnes i fan hyn ond rydych yn fwy tebygol o brofi llwyddiant wrth ddefnyddio egin neu dyfiant newydd fel y gwelwch yn gynharach yn y flwyddyn.
Dyma rai enghreifftiau eraill o blanhigion lluosflwydd prennog gallwn gymryd toriadau wrthynt:
Ysgawen,
Forsythia,
Helyg,
Trilliw ar ddeg (Hydrangea)
Llaeth y gaseg (Honeysuckle)
…a llawer iawn mwy! Un o fy hoff bethau i am greu toriadau yw gallu rhannu’r planhigion newydd gyda theulu a ffrindiau!!