
Mae’r tŷ gwydr yn llawn ym mis Ionawr
Rwy’n bles iawn gweld y lle ‘ma yn llawn yn barod Nid eginblanhigion sydd yma cofiwch ond toriadau, trawsblaniadau a rhaniadau wrth blanhigion yr ardd yn ystod yr Hydref llynedd! O, a digonedd o winwns!
Roedd rhyw deimlad rhyfedd gyda fi y byddai rhew caled yn fwy amlwg yn ystod y gaeaf eleni ac felly i ddiogelu rhai o fy hoff fathau o blanhigion fe gymerais ormodedd o doriadau bach! A diolch i’r drefn am hynny achos mae’r tywydd oer wedi gafael sawl gwaith y gaeaf hwn yn barod