Mae’r gymaint o blanhigion nawr yn llenwi silffoedd y tŷ gwydr i’w cysgodi dros fisoedd oer a gwlyb y gaeaf.
Nid yw’r tŷ gwydr hwn wedi’i wresogi, felly bydd sicr yn rhewi mewn ‘ma yn ystod y misoedd nesaf Serch hynny mae dal yn fanteisiol dod â rhai planhigion mewn i gysgodi rhag y tywydd gwaethaf – toriadau newydd, perlysiau mewn potiau, setiau winwns, planhigion lled-wydn (half hardy) fel y fuchsia a’r nepeta rhedegog.
Hefyd mae rhyw 30 o blanhigion mefus wedi potio yma (rhedwyr planhigion eleni) gyda’r gobaith y byddant yn dod â ffrwythau cynnar ym mis Mai o gael ychydig o ofal a charcad
