Tyfu Blodau Torri

Mae yna gymaint o fanteision wrth dyfu blodau torri ein hunain gartref, un o’r prif rai yw lleihau ein hol troed carbon trwy beidio â phrynu blodau torri sy’n cael eu mewnforio.

Mae tusw o flodau sydd wedi’u tyfu gartref yn anrheg hyfryd a phersonol ar gyfer achlysur arbennig a gall petalau blodau sych cael eu defnyddio fel conffeti priodas neu bersawr.

Fel welwch yn y fideo, roeddwn yn lwcus iawn i allu defnyddio blodau o’r ardd ar gyfer ein priodas! Fe benderfynom gasglu petalau blodau o’r ardd a’u sychu i greu conffeti a hefyd, fe gasglom lawer o flodau amrywiol ddiwrnod cyn y briodas i greu tusw bach o flodau i roi mewn poteli llaeth i addurno’r lleoliad – roedd e’n berffaith!

Dyma fideo yn dangos sut i fynd ati i dyfu blodau torri. Mae gwneud y pethau bach hyn yn grêt i natur a pheillwyr, lyfli i’w defnyddio yn y cartref a llawer fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Tyfu’r Dyfodol, ewch i: https://garddfotaneg.cymru/science/growing-the-future/