Tyfu bwyd trwy’r flwyddyn gron

Mae modd tyfu cnydau yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn. Cnydau fydd yn dod â swp o fwyd blasus maethlon a fforddiadwy!

Bwydydd fel cennin, moron, winwns, saladau, artisiog, dail bresych a llawer, llawer mwy!

Yn y fideo hwn paratoais ar gyfer prosiect Tyfu’r Dyfodol nôl yn 2021, rwy’n rhannu rhai o’r syniadau ac yn dangos sut ydw i’n mynd ati i wneud y mwyaf o’r gofod tyfu yn yr ardd.