Er bod saladau yn cael ei weld fel bwyd hafaidd, gall dail saladau dyfu yr un mor rhwydd dros misoedd y gaeaf hefyd.
Fel welwch yn y llun, er mis Medi mae’r endifau wedi tyfu’n gryf yn y twnel tyfu ac yn barod i’w fwyta! Y peth gorau am dyfu saladau yw eich bod yn gallu torri’r dail pan rydych yn barod i’w bwyta a maent yn cadw’n ffres yn yr ardd tan y tro nesa.
Mae bendant gwerth rhoi cynnig ar dyfu dail salad yn ystod y gaeaf – mae e llawer yn well i’r amgylchedd hefyd gan nad oes angen i ni ddibynnu ar fewnforio bwyd mewn awyrennau sydd yn enwedig mwy cyffredin yr adeg hon o’r flwyddyn.
Beth am gynllunio i dyfu saladau gaeaf eleni?
Bydd angen eu hau yn ystod mis Awst/Medi yn barod i’w cynaeafu o fis Tachwedd ymlaen.
Gallwch chi dyfu’r canlynol yn rwydd yn yr awyr agored yng Nghymru :
Sbigoglys
Tsicori
Endifau
Pak choi
Selari
Dail Betys
…a llawer mwy!
Un o’r pethau gorau am dyfu saladau yw eich bod yn gallu torri faint y dymunwch pan rydych yn barod i’w fwyta. Mae hyn yn ffordd arbennig o arbed arian a lleihau gwastraff bwyd hefyd!