Tyfu tato mewn bwcedi

Tatws cynnar ‘Nadine’ yw rhain, y daten perffaith ar gyfer saladau yn ystod yr haf.

Fe benderfynais i ddwy flynedd yn ôl na fyddwn i’n tyfu tatws yn y pridd eto ond yn hytrach, dilyn ffordd SimplifyGardening a phlannu mewn bwcedi.

Gallaf ddweud yn hollol sicr bod y cnwd rwy’n ei gael erbyn hyn gymaint yn fwy i gymharu a’r cnwd roeddwn yn cael o’r pridd!

Roeddwn yn bles iawn gyda thyfiant rhain, er roedd y tywydd wedi bod yn anarferol o sych am amser hir felly roedd angen rhoi digon o ddŵr iddynt!

Un tip garddio pwysig yw sicrhau nad ydych chi’n gadael i’ch tatws sychu gormod neu gewch chi datws bach iawn. Yr unig anfantais o’u tyfu mewn bwcedi yn hytrach na syth yn y ddaear yw’r angen i ddyfrio fwy ond mae hyn wir yn werth e pan gewch chi gnwd hyfryd o datws o’r bwcedi yn y haf!