Tyfu Tatws

You say potato but we say tato, tatws, taten a thatan…. 🤣

Mae mynd ati i dyfu tatws yn gallu swnio’n ddigon cymhleth ar adegau! Felly ble mae cychwyn? Yn gyntaf mae angen dod o hyd i datws had (yn syml tato llynedd ydy rhain sydd â blagur bach arnynt yn barod i egino. Gallwch ddefnyddio tatws o’r archfarchnad ond chewch chi ddim canlyniadau cystal â phrynu tato had neu gadw tato yn ôl o’r flwyddyn ganlynol. Mae tatws mewn archfarchnadoedd wedi’u trin â chemegion i atal tyfiant egin fydd ond yn arafu tyfiant y planhigion a lleihau’r cnwd.

Beth am dato cynnar, prif gnwd…? Yn gyffredinol mae tri grŵp o datws:

  • Tatws cynnar neu first earlies (tyfu’n sydyn 8 – 10 wythnos, plannu ym mis Mawrth ac yn barod ar gyfer mis Mehefin).
  • Tatws eilgnwd neu second earlies (tyfu am ychydig yn hwy na thatws cynnar 12 – 14 wythnos, plannu Mawrth ac Ebrill a barod ar gyfer mis Gorffennaf ac Awst).
  • Tatws Prif gnwd neu main crop (tyfu’n araf rhwng 16 – 20 wythnos, plannu ddiwedd Ebrill ac yn barod rhwng mis Awst a Hydref, storio’n dda dros y gaeaf.

Ym mhob un grŵp o datws mae cannoedd o fathau amrywiol sy’n tyfu ac yn blasu’n wahanol. Pa fathau ydw i’n tyfu?

  • Tatws cynnar: Foremost – sydyn a blasus.
  • Eilgnwd: Nadine – Y daten orau erioed, blasus, swmpus yn grêt ar gyfer pob math o bryd yn enwedig tato pob!
  • Prif gnwd: Sarpo Mira – Yn gwrthsefyll y malltod (blight resistant) felly dim problem colli tato a sicrhau y bydd wastad cnwd da gyda ni. Storio yn arbennig o dda hyd at 10 mis mewn cwtsh tywyll a sych.

Sut ydw i’n eu tyfu? Rwy’n tyfu pob taten mewn bwcedi du 30 litr ac nid yn y pridd. Y prif reswm ydy fy mod i’n garddwr dim palu a ddim yn awyddus i droi’r tir ond hefyd rwy’n gweld bod y canlyniadau’n arbennig. Bydda i fel reol yn defnyddio compost o’r domen sydd yn gryf iawn a llawn nitrogen. Bydd y tato yn defnyddio hwn ac yn creu balans yn y compost. Bydda i wedyn yn gallu ailddefnyddio’r compost i dyfu pethau eraill fel moron ac eginblanhigion.

Tip pwysig: Egino yr adeg hon o’r flwyddyn ar silff ffenest cynnes i annog yr egin i flaguro. Gall hyn gyflymu’r tyfiant gymaint â phythefnos!

Pob lwc 😃👌