Tymor Tyfu

Edrych yn ôl ar luniau o’r ardd tua’r un adeg llynedd ac mae’r gwahaniaeth yn nhwf dail y coed mor amlwg!

Llynedd roedd hi’n wanwyn sych a chynnes gyda’r tymor tyfu dipyn ar y blaen.

Eleni mae wedi bod yn wanwyn sych unwaith eto ond yn anarferol o oer hefyd sydd wedi arafu tyfiant gymaint!

Mae’n wers bwysig inni ddysgu fel garddwyr, does dim ots pa faint a gynlluniwn ni, pa faint o brofiad neu dechneg tyfu sydd gennym achos yn y pendraw rydym ni gyd yn nwylo byd natur.

A heddiw fe wyliais sgwrs wych gan The National Botanic Garden of Wales a Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales am lên gwerin ac enwau planhigion Cymru dan ofal Steffan John a Bethan Wyn Jones wnaeth ddod â’r dywediad hwn i’n sylw:

“Os y ddraenen ddu sydd wych

Hau dy had pan fo hi’n sych”

“Ond os y ddraenen wen sydd wych

Hau dy had boed wlyb neu sych!”

Hynny yw pan fydd y ddraenen ddu yn blodeuo a hynny fel arfer heb ddail yn gynt yn y tymor, nid yw bob tro’n adeg dda i hau ond pan fydd y ddraenen wen yn ei blodau tua fis Mai, gallwch fod yn sicr y bydd yr amodau tyfu a hau gymaint gwell.

Mae dysgu am fyd natur a’n planhigion cynhenid yn mynd law yn llaw gyda dysgu sut i arddio!