Tymor yr afalau

Mis Medi yn bennaf yw’r amser i gynaeafu afalau. Mae’r coed afalau sydd gyda ni yn y berllan yn ifanc ac felly does dim llawer o ffrwythau arnynt eto.

Roedd coed fy nghymdogion serch hynny yn llawn afalau ac fel cymdogion da mae nhw’n barod iawn i rannu.

Rwy’n creu Jeli Afal a Tsilis gyda rhain.

Mae’n rhyfedd, mae coed afalau yn blanhigion cymdeithasol iawn yn debyg i ni bobl. Mae nhw’n hapus eu byd pan yng nghwmni coed afal eraill ond nid coed sydd o reidrwydd o’r un math â nhw ond amrywiaeth o goed afalau gwahanol sy’n helpu eu gilydd i dyfu.

Mae dros 7,500 o wahanol fathau o afalau i gael yn y byd a phob un ohonynt gyda chyfraniad pwysig.

Ddylwn ni ymhyfrydu yn ein hamrywiaeth fel pobl ac fel y coed afal, dibynnu ar ein gilydd a dathlu’n gwahaniaethau i dyfu’n gryf ac iach.