19°C yn yr ardd ddiwedd yr Hydref a mae bron yn fis Tachwedd
Mae’r tywydd anarferol o fwyn yn gyfle grêt i ymestyn y tymor tyfu ychydig ond wir yn broblematig o ran balans ein hinsawdd yn yr hir dymor
Mae wedi bod yn flwyddyn gynnes dros ben eleni ac rwy’n ofni bydd hyn yn golygu pan ddaw’r gaeaf fydd yn sioc anferth i’r system ym mhen ychydig wythnosau! O’r haf i’r gaeaf mewn ennyd Yr unig dystiolaeth o’r hydref fan hyn ydy cwymp y dail, fel arall mae bron yn teimlo fel mis Awst!
