Mae pen uchaf yr ardd, nawr y berllan, wedi newid tipyn ers 2015!
Doedd dim berllan na phwll natur gwyllt yn yr ardd bryd hynny, dim ond darn garw o dir gafodd ei ddefnyddio fel dymp sbwriel… Daethom o hyd i ffrâm gwely metal, sosbenni, ceffyl siglo, crochenwaith, bŵts, trampolîn a llawer mwy!
Synnech chi faint o wydr, plastig a metal wnaethom ni dynnu o’r rhan hon o’r ardd. Rydym yn dal i ddod o hyd i ddarnau bach o wydr a chrochenwaith hyd heddiw. Dyma fy hoff ran i o’r ardd erbyn hyn, y pwll yn llawn natur a blodau gwyllt brodorol yn tyfu rhwng y porfa. Mewn byr o amser mae wedi dod yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys y ffowls bob hyn a hyn.