Plannu border llawn planhigion alpinaidd
Roedd yn hyfryd cael cyfle i ddechrau ar y gwaith o blannu’r borderi newydd yng nghanol yr ardd heddiw
Y border alpinaidd (a chwpwl o bethach eraill) yw hwn gyda phlanhigion bach i gyd na fydd yn tyfu’n uwch na rhyw 15-20cm mewn taldra.
Y syniad a’r gobaith yw creu carped cyfan o flodau fan hyn fydd yn dod â lliw o’r gwanwyn i’r hydref a thyfiant trwchus fydd yn atal chwyn. Un o’r pethau gorau am y border hwn hefyd yw na fydd angen gormod o ofal na sylw yn ystod y flwyddyn.
Border dim palu yw hwn a’r cyfan wnes i oedd gosod haenen o gardfwrdd ar ben y porfa/chwyn oedd yno ac yna gwasgaru compost cartref o’r cwb ffowls a haenen dop o Merlin’s Magic (sy’n gompost gwyrdd difawn lleol).
Yn y border rwy’ wedi plannu:
- Saxifraga
- Aubretia
- Dianthus
- Mynawyd y Bugail
- Alyssum Melyn
- Armeria
- Gypsophila Prostrata
- Teim
- Phlox
- Sedum
… a llawer mwy yn y twnel tyfu yn barod i ychwanegu eto
