(Cyhoeddwyd yr erthygl hon ar wefan BBC Cymru Fyw ar y 14 Medi, 2021).
Mae mis Awst a Medi yn gyfnod perffaith i fynd ati i grwydro ar hyd caeau a pherthi Cymru i gasglu mwyar duon.
Rydym wedi bod yn casglu a bwyta mwyar duon yng Nghymru ers oes yr arth a’r blaidd, hynny yw, am filoedd o flynyddoedd a does dim byd yn wahanol eto eleni.
Mae’n hen draddodiad sy’n perthyn i ni gyd. Fel crwtyn rwy’n cofio mynd i gasglu mwyar yng nghaeau Glanaman a gweiddi ‘bagsi, patsh fi’ wrth inni frwydro am y llwyni gore i gasglu’r nifer fwyaf o ffrwythau mewn dim o amser.
Ffrwythau bach du bwytadwy yw mwyar duon yn tyfu ar fieri neu Rubus Fruticosus yn Lladin. Maen nhw’n llwyni ddigon pigog yn llawn drain miniog ac mae angen cymryd gofal wrth eu casglu, ond bois bach, mawr yw’r wobr wedyn!
Mae modd defnyddio mwyar duon i goginio sawl rysáit blasus – cacennau melys a sur, pastai ‘fale a mwyar duon, jamiau, gwin, jin a surop i drechu anwydau’r gaeaf.
Surop i drechu anwyd?
Ie wir, mae mwyar duon yn llawn fitamin C.
Mae gymaint â hanner y cyfanswm fitamin C ddylwn ei gael mewn diwrnod mewn un cwpan 30g o fwyar duon. Maen nhw hefyd yn isel iawn mewn carbohydradau a chalorïau sy’n golygu y gallwn ni fwyta tipyn ohonyn nhw, heb boeni am greu twll ychwanegol ym melt y trowsus!
Mae mwyar ymhobman!
Does dim angen ichi fynd i chwilio ymhell i ddod o hyd i fwyar duon chwaith, maen nhw’n tyfu wrth ochrau prif ffyrdd, parciau, hewlydd cefn a chaeau ac nid yn unig yng nghefn gwlad – maen nhw’n gyffredin yn ein dinasoedd a’n trefi hefyd!
Dyma ffrwyth byd natur mewn ffordd, mae gymaint o rywogaethau gwahanol yn ddibynnol arnynt i oroesi’r gaeaf.
Mae’r gwenyn wrth eu bodd yn peillio’r blodau ym mis Mehefin, llygod bach ac adar yn pesgi arnynt yn ystod yr hydref am egni cyn i’r tywydd droi a ninnau hefyd yn eu storio er mwyn mwynhau blas yr hydref yn ystod y gaeaf.
Mwyar Mihangel
Yn ôl hen gred mae’n anlwcus i bobl gasglu a bwyta mwyar ar ôl dydd Gŵyl Mihangel (Medi 29). Ar y dyddiad hwn y collodd y diafol frwydr gyda’r Angel Mihangel a chwympo o’r nefoedd a glanio’n boenus ar lwyn o fwyar duon.
Yn ôl bob tebyg, bydd y diafol yn dial bob blwyddyn wrth boeri neu wneud dŵr ar ben y mwyar yn ystod mis Hydref.
Cyngor Casglu Mwyar:
- Gwisgwch ddillad sy’n gorchuddio’r croen – hen gotiau neu siwmper trwm i osgoi sgathru breichiau gyda’r drain.
- Casglwch y mwyar sydd yn y brigau uchaf oddi ar y ddaear ymhell wrth unrhyw gadno neu gi direidus.
- Os yn mentro i dir amaethyddol, holwch ganiatâd y ffermwyr o flaen llaw a gofalwch ichi gau bob giât a pheidio a thorri bylchau yn y cloddiau.
- Hefyd, ewch â digonedd o bocsys bwyd gwag/ bwcedi – os yn flwyddyn dda, fe lenwch chi nhw glatsh!
Ond sut mae gwybod bod y mwyar yn barod?
- Casglwch y mwyar sydd â phob gronyn yn ddu, dyma’r rhai fwyaf aeddfed sydd yn hawdd eu codi oddi ar y planhigyn.
- Gwiriwch nad oes unrhyw gynrhon neu lwydni ar y ffrwythau wrth eu casglu.
- Ewch yn gynnar yn y bore neu gyda’r hwyr i’w casglu pan fydd yr heulwen yn ddof – bydd y ffrwythau’n cadw’n fwy ffres!
- Unwaith ichi gasglu’ch mwyar bydd angen ichi eu golchi’n dda a’u defnyddio’n weddol sydyn gan nad ydynt yn cadw’n ffres am gyfnod hir. Mae modd ichi eu rhewi i’w defnyddio rhyw bryd eto neu eu cadw ar ffurf surop melys neu jam.
Torth Mwyar Duon ac Afalau
I’r rhai ohonoch sydd yn hoffi pwdinau blasus, beth am greu Torth Mwyar Duon ac Afalau?
Cynhwysion
- 250g blawd codi
- 175g menyn
- 175g siwgr
- ½ llwy de o sinamon
- 2 lwy fwrdd siwgr demerara
- 1 afal melys (nid rhai coginio)
- 2 wy
- 1 llwy de powdwr pobi
- 250g o fwyar duon
Dull
1. Twymwch y ffwrn i 180c. Irwch dun torth 1.7litr gyda menyn neu olew. Cyfunwch y blawd, menyn a’r siwgr at ei gilydd mewn powlen gymysgu fawr a’i rwbio gyda’ch bysedd tan ei fod yn ymdebygu i friwsion bara. Codwch un cwpan llawn o’r cymysgedd o’r bowlen a’i gymysgu gyda’r sinamon a’r siwgr Demerara ar gyfer creu’r topin. Rhowch y topin wrth un ochr tan yn hwyrach.
2.Gratiwch yr afal yn drwchus a’i gymysgu gyda’r wyau. Ychwanegwch y powdwr pobi i’r gymysgedd sych ac yna ychwanegwch yr wyau a’r afal i mewn yn sydyn a’i gymysgu’n ysgafn, tan ei fod yn dew ond yn dal i gwympo oddi ar y llwy yn araf. Ceisiwch beidio gor-gymysgu!
3.Rhowch dwy ran o dair o’r mwyar i mewn i’r gymysgedd gyda llwy yn ofalus heb eu malu. Rhowch y cyfan yn y tun. Rhowch weddill y mwyar ar ben y gymysgedd a gwasgarwch y topin ar ben y cyfan. Pobwch yn y ffwrn am rhyw awr a chwarter. Ar ôl coginio am 50 munud rhowch ffoil yn llac ar ei ben os welwch chi fod y gymysgedd yn brownio’n dywyll.
4.Defnyddiwch gyllell neu sgiwer i weld os yw’r dorth yn barod. Os fydd y gyllell neu’r sgiwer yn lân heb unrhyw gymysgedd gwlyb arno wrth ei dynnu, mae’n barod i adael y ffwrn. Gadewch y dorth yn y tun am hanner awr cyn ei thynnu a’i hoeri ar rac weiren. Bon appetit!