
Mae nifer o gnydau fel y bresych, moron, pannas a swêds yn blasu dipyn yn well ar ôl cyfnod o rew ac mae hyn am eu bod yn aml yn felysach o lawer.
Mae planhigion yn cymryd carbon diocsid a dŵr a thrwy ffotosynthesis yn defnyddio golau’r haul i’w drosi yn siwgr a startsh – dyma egni’r planhigyn. Mae cyfnod o rew yn annog rhai planhigion gwydn i drosi mwy o startsh yn siwgr a hynny wedyn yn cadw’r planhigion yn gynnes wrth iddynt metaboleiddio’r siwgr i greu egni.
Dyna pham bydd y planhigion hyn yn blasu’n well ar ôl tywydd oer gan eu bod yn cynnwys tipyn yn fwy o siwgr! Gall fresychen werdd fel hon oddef tymheredd mor isel â -10°C. Does rhyfedd ein bod yn bwyta gymaint ohonynt yn ystod y gaeaf!