Dyma Fuwch Goch Gota yn crwydro ar hyd ddail yr asbaragws
Rwy’ wrth fy modd yn eu gweld yn yr ardd Y prif reswm am hynny yw oherwydd eu bod yn greaduriaid bach gweithgar yn bwyta plâu pryfed sugno cyffredin fel affidau. Po fwyaf o fuchod coch cwta sydd yn eich gardd, yr hawsaf fydd rheoli problemau plâu a sicrhau nad yw poblogaethau’r plâu pryfed hyn yn afreolus!
Un ffaith ddiddorol amdanynt hefyd yw eu bod yn defnyddio neithdar ac felly yn peillio’r blodau yr un pryd