Y Wenynfa yn llenwi

Mewn blwyddyn rydym wedi llwyddo i ehangu nifer y teuluoedd gwenyn o 1 i 9 heb brynu mwy o wenyn 🙈

Wrth ddal heidiau a bod bach yn araf wrth wirio pob cwch am arwyddion heidio naturiol fel celloedd brenhines rydym rhywsut wedi llwyddo i ehangu 800% 😂

Mae un broblem fawr wrth gwrs… Mae hyn yn golygu ein bod yn annhebygol o gael cnwd da o fêl eleni.

Fydd hi’n flwyddyn gwerth chweil flwyddyn nesaf gobeithio 🤞😂🍯