Mae’n ail wanwyn yma yn yr ardd unwaith eto
Wythnos ddiwethaf fe heuais pob math o ddeiliach gwyrdd fydd yn ein bwydo ni rhwng mis Hydref a Mai flwyddyn nesaf
Cnydau yn cynnwys:
- Bresych Tsieineaidd
- Bresych New Brunswick
- Blodfresych
- Kohlrabi
- Romanesco
- Tatsoi
- Bok choi
- Sbigoglys
- Roced
- Mwstard
- Saladau Asiaidd
- Letys Arctic King
- Ysgall y Meirch
Rwy’ hefyd wedi hau rhuddygl, erfin a dail betys yn syth i’r pridd a byddaf yn hau’r cnwd olaf o foron heddiw
Y peth pwysica i gofio pan yn ceisio byw mor hunangynhaliol ag sy’n bosib ydy cynllunio mlaen bron blwyddyn a hau cnydau i dyfu drwy’r gaeaf!
Does bron dim un gwely yn wag yn yr ardd gyda fi drwy’r flwyddyn gyfan er mwyn sicrhau’r defnydd mwyaf effeithlon o’r tir sydd gyda ni!
