Yr Arwyddbost

Mae’r arwyddbost newydd lan yn yr ardd! Anrheg ben-blwydd oedd hwn gan fy wraig Sara nôl ym mis Ebrill 2020. Er fod yr ardd lysiau yn le ymarferol iawn, rwy’n credu’n gryf ei fod yn bwysig cynnwys pethau sydd yn tynnu’r llygaid neu yn golygu rhywbeth i ni yn bersonol!

Mae’r llefydd ar yr arwyddbost hwn i gyd yn bwysig i mi;

Glanaman : Lle cefais fy magu a threulio dros 20 mlynedd hapus dros ben. Dyna le ddechreuodd y garddio mewn gardd fach oedd yn teimlo’n anferth pan oeddwn i ond yn 3 blwydd oed.

Caerfyrddin: Y dref lle magwyd Sara, fy ngwraig arbennig a chartref rhan fwyaf o’i theulu. Tref eithriadol o bwysig i hanes a datblygiad Cymru.

Betws – Y Byd: Dywediad doniol o Ddyffryn Aman, ardal sydd eto yn rhan fawr iawn, iawn o bwy ydw i heddi. Dyffryn Aman hefyd yw’r cwm lle y mae’r rhan fwyaf o’m teulu dal yn byw.

Aberystwyth : Treuliais 3 blynedd hapus yn Brifysgol Aberystwyth yn astudio’r Gymraeg ac Almaeneg a chwrdd a phobl arbennig sydd yn ffrindiau oes erbyn hyn. Fi’n siŵr y gallwn i ychwanegu sawl lle arall i’r arwyddbost hwn yn y dyfodol hefyd. Y neges yn y bôn yw perchnogaeth. Perchnogwch eich gerddi a chynhwyswch y pethau sy’n bwysig i chi!