Mae’r Orchis neu ‘Tegeirian’ o deulu’r Orchidaceae.
Rwy wrth fy modd gyda’r planhigyn hwn sy’n dod â ffrwydrad o liw i’r tŷ rhwng y Nadolig a’r Pasg.

Mae o gwmpas 28 mil o wahanol rywogaethau tegeirian i’w cael yn y byd; dyma’r teulu planhigion blodeuol mwyaf.
Mae’r mathau byddwn yn prynu i’w cadw fel planhigion tŷ dipyn yn fwy na’u cefndryd cynhenid ac mae gymaint ohonynt i’w gweld ar draws Cymru yn ystod y gwanwyn a’r haf.
Mae’n bwysig iawn bwydo tegeirianau cartref pan fyddant yn blodeuo ac os allwch chi, rhowch y planhigion mewn mannau golau yn eich cartref fel ffenest ddwyreiniol yn ddelfrydol.
Oes gennych chi blanhigion Orchidaceae yn eich cartref neu ardd?
Ffaith y dydd: Oeddech chi’n gwybod bod y planhigyn fanila yn fath o degeirian?