Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr

Dyma ni yn sefydlu gardd dim palu newydd yn Ysgol Gymraeg CRhA Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr PTA 🧑🏻‍🌾

Heddiw ces i lond whilber o sbort yn cychwyn gardd dim palu o’r newydd yng Nghwm-twrch. Diolch i blant blwyddyn 5 am eu hymdrechion gwych wrth symud tunelli o gompost a chreu gofod tyfu newydd sbon mewn llai na diwrnod! Fe aethom ati i gasglu cardfwrdd, gwasgaru a chywasgu compost ac yna plannu pob math o gnydau 🥕🥦🥬

Y gobaith yw creu gardd farchnad fach yn yr ysgol i gynhyrchu bwyd i deuluoedd a’r gymuned leol yn ogystal â dysgu sgiliau tyfu i’r genhedlaeth nesaf ☺️

Byddai efelychu’r prosiect hwn ym mhob sefydliad addysg yng Nghymru yn cynnig cyfle arbennig a chyffrous i Gymru. Gallwn ddatblygu cenhedlaeth newydd o bobl sy’n deall pwysigrwydd tyfu a bwyta bwyd lleol mewn modd sy’n gofalu am fyd natur a’r amgylchedd 🌍🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diolch i bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru am ariannu a chefnogi’r prosiect hwn 🌱