Ysgol Gymraeg Rhydaman – Blwyddyn 3

Diwrnod arbennig yn Ysgol Gymraeg Rhydaman heddiw yn garddio gyda Blwyddyn 3 😃

Codi fframiau ar gyfer tyfu ffa dringo, plannu ffa dringo, dŵr, baw a llond whilber o sbort 😆 Roedd hefyd yn gyfle i rannu pa mor bwysig yw tyfu ein bwyd ein hunain gartref 🥕🥦

Mae mor galonogol gweld cynnydd mawr yn nifer y plant sy’n dweud eu bod yn tyfu ac yn garddio gartref. Dyma fydd cenhedlaeth o arddwyr organig sy’n gofalu am ein byd hefyd 🌻

Mae bron 6 mis wedi mynd heibio ers imi benderfynu i fynd i weithio yn llawrydd ac mae diwrnodau fel heddiw yn sicr yn cadarnhau mai dyna oedd y penderfyniad gorau i mi ☺️