Gwenyn Mêl

Mêl Blas y Blodau

Mêl Cymreig a gynhyrchir yn Sir Gaerfyrddin gan gwmni Adam yn yr ardd.

Blas y Blodau gan wenyn Cymreig wedi’u cadw gan fusnes bach teuluol yn Sir Gâr.

Pwysau: 340g (12oz)

Cynhwysion: 100% Mêl naturiol gan wenyn Cymreig.

Cadwch mewn man cŵl a sych

Anaddas i fabanod o dan 12 mis oed

Mi fydd y mêl gydag amser yn crisialu’n naturiol – ond peidiwch boeni, mae hyn yn berffaith arferol. Mae modd dad-grisialu’r mêl wrth osod y jar mewn powlen neu badell o ddŵr cynnes a throi’r mêl gyda llwy tan ei fod yn llifo’n fwy esmwyth.

Cost: £7.50 y jar

Os hoffech chi brynu mêl cysylltwch â ni heddiw trwy anfon e-bost at cyswllt@adamynyrardd.cymru neu ewch i’n siop etsy.

Cefndir cadw gwenyn

Ers yn grwtyn bach, rwyf wastad wedi bod â diddordeb mawr yn natur y wenynen a’r effaith mae’n ei chael ar ein bywydau ni gyd. Daeth cyfle euraid yn 2020 wrth imi a fy nhad yng nghyfraith Neville dderbyn anrheg nadolig go arbennig i fynychu cwrs cadw Gwenyn gyda chwmni mêl lleol Gwenyn Gruffydd.

Roeddwn wedi ymchwilio a darllen cryn dipyn am wenyn mêl dros y blynyddoedd ond erioed wedi profi’r wefr o agor cwch gwenyn am y tro cyntaf, gweld y paill, y mêl, y frenhines a’r wyau yn y fagwrfa i gyd yn strwythur berffaith. Ar ôl mynychu’r cwrs ymarferol i gadw gwenyn – daeth yr amser i brynu ein cwch gwenyn cyntaf a sefydlu gwenynfa o’r newydd!

Menter teuluol ydy cadw gwenyn. Rwyf i a Neville yn gyfrifol am reoli’r gwenynfeydd a gofalu am y gwenyn tra bod fy ngwraig Sara a’i mam Julie yn arwain ar y gwaith echdynnu a jario’r mêl.

Erbyn heddiw, rydym wedi ehangu nifer ein cychod gwenyn i oddeutu 20 cwch ar draws tri safle ac wedi profi ein cynhaeaf mêl (o unrhyw sylwedd) cyntaf a melys moes mwy gobeithio!

Pam cadw gwenyn?

Mae sawl rheswm da dros gadw eich gwenyn eich hun. Fel garddwr roeddwn yn awyddus i sicrhau bod mwy o beillwyr yn ymweld â’r ardd ac yn peillio’r cnydau fel y coed afalau, ffa a’r ffrwythau meddal – ac nid wyf wedi fy siomi chwaith -am weithwyr diwyd a brwd!

Rydym yn cadw gwenyn duon Cymreig yn bennaf yn ogystal â pheth gwenyn Buckfast. Mae gwenyn tywyll Ewropeaidd cynhenid fel y gwenyn duon Cymreig, yr Apis Mellifera Mellifera yn eithriadol bwysig i’n hamgylchedd ac mae’r wenynen hon yn hen law ar gyfarwyddo ein hinsawdd heriol ni yma yng Nghymru.

Mae gwenyn yn hanfodol bwysig i’n systemau bwyd ledled y byd a hebddynt, ni fyddai modd i’r rhan fwyaf o ddynoliaeth oroesi ar y blaned heddiw. Mae gwenyn mêl naturiol cynhenid yn brinach na’r rhan fwyaf o rywogaethau pryfed sy’n gynhenid i Gymru – a hynny yn dilyn blynyddoedd lawer o golli cynefin, heintiau a thywydd gwael. Bellach oni bai am wenywyr yng Nghymru, mae’n anhebygol iawn y byddai gennym boblogaethau hyfyw o wenyn mêl ar ôl!

Rydym yn rheoli’n cychod gwenyn mewn modd gofalus ac ystyrlon fel na fyddwn yn amharu’n ormodol ar eu bywydau yn y cwch.

Hanes y mêl

Sefydlu’r wenynfa gyntaf

Sefydlwyd y wenynfa gyntaf yn ein gardd yma yng Ngors-las nôl yn 2020.

Mae’r wenynfa hon yn agos iawn at bedwar gwarchodfa natur o bwys gwyddonol pwysig sef Caeau Blaen yr Orfa, Cernydd Carmel, Parc Gwledig Llyn Llech Owain ac ardal Mynydd Mawr.

Rydym yn ffodus tu hwnt bod yr ardal leol yn llawn porfeydd a gweunydd sy’n cael eu rheoli at ddibenion cadwraeth ac sy’n doreithog o flodau gwyllt cynhenid.

Mae ein gwenyn hefyd yn manteisio o flodau’r eithin a’r grug ar adegau o’r flwyddyn pan na fydd gymaint o blanhigion cynhenid yn eu blodau.

Ehangu a chymryd gofal dros wenynfa yng nghyffuniau Caerfyrddin

Daeth cyfle i ehangu ym mis Ebrill 2023 wrth i hen wenynwr roi’r gorau i gadw gwenyn yn dilyn blynyddoedd lawer o brofiad a chryn dipyn o lwyddiant hefyd.

Fe wnaethom gymryd gofal dros y wenynfa lewyrchus yng nghyffuniau Caerfyrddin a derbyn tipyn o gyngor doeth gan hen ben. Dyma wenynfa oedd wedi hirsefydlu ar y safle gyda gwenyn lleol duon Cymreig sydd yn gyfarwydd iawn ag amodau tywydd a fforio yn ardal Caerfyrddin.

Mae gennym gynlluniau cyffrous i sefydlu gwenynfa arall yn y dyfodol agos!

O’r cwch i’r jar

Nid ar chwarae bach mae mynd ati i gasglu’r lloftydd trwm llawn mêl a’u hechdynnu. Rydym yn casglu’r lloftydd mêl oddi ar y cychod ym mis Awst ac yna yn eu dad-gapio ac echdynnu yn ein cegin fêl pwrpasol yng Nghaerfyrddin.

Byddwn yn tynnu haenen o gwyr oddi ar y mêl ac yna yn gosod y fframiau i gyd mewn troellwr neu echdynnwr mêl. Bydd y mêl wedyn yn llifo i waelod y tanc ac yna yn cael ei ffiltro i dynnu unrhyw fanion cwyr o’r hylif euraidd.

Rydym yn ffiltro’r mêl am yr eildro gan ddefnyddio ffiltr mân i sicrhau cysondeb yng ngwead y mêl ac yna mae’n barod i’w osod mewn jariau a’i flasu.

Mae ein hardal echdynnu a jario mêl wedi’i archwilio gan swyddogion hylendid bwyd y cyngor ac mae’n dda iawn gennym ddweud ein bod wedi derbyn sgôr o 5/5 (sef y sgôr uchaf un).

Hoffech chi brynu mêl?
Would you like to buy honey?