Ymgynghoriad Gardd

Mae bwrw ati i gynllunio’r ardd ddelfrydol yn gallu teimlo fel tasg anferthol ond gydag ychydig o help llaw wrth ystyried opsiynau a chynllunio, gall fod yn llawer o hwyl. Mae’n bosib nad oes angen dyluniad gardd lawn arnoch a’ch bod yn chwilio am ychydig o gyngor cyfeillgar.

Gwasanaethau ymgynghoriad gardd

Dewis 1: Ymweliad Safle neu sesiwn un-i-un yn ddigidol trwy ddefnyddio Zoom neu Teams a chyfle i drafod yr ardd, technegau cynllunio a chynlluniau plannu.

Os yn ymweliad safle byddaf yn cwrdd â chi ac yn ymweld â’ch gardd a holi cwestiynau er mwyn casglu’ch teimladau a’ch syniadau am eich gardd ddelfrydol. Byddaf yn gofyn ichi gwblhau holiadur gardd syml o flaen llaw. Bydd cyfle inni ystyried a gwerthuso’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer eich gardd chi.

Os yn sesiwn Zoom/Teams byddaf yn gofyn cwestiynau i gasglu’ch syniadau a’ch teimladau am yr ardd. Fodd bynnag, bydd gofyn ichi fy nhywys o amgylch yr ardd yn ddigidol neu yrru fideo-daith o amgylch yr ardd o flaen llaw er mwyn dod i ddeall natur a lleoliad yr ardd. Bydd gofyn ichi gwblhau’r holiadur gardd syml o flaen llaw hefyd.

Dewis 2: Ymweliad Safle neu sesiwn un-i-un yn ddigidol gydag adroddiad ysgrifenedig.

Byddaf yn cwblhau’r ymweliad yn unol â’r hyn a nodir yn newis 1, ond yn ogystal â hynny yn darparu adroddiad ysgrifenedig yn seiliedig ar y drafodaeth. Bydd yr adroddiad yn cynnwys:

  • Disgrifiad o natur yr ardd
  • Amlinelliad o’r syniadau a drafodwyd a sut y gellir eu datblygu (yn cynnwys rhestrau planhigion, deunyddiau neu wrthrychau)
  • Rhestr ddarparwyr planhigion/deunyddiau crai
  • Cynllun Gweithredu gydag amserlen awgrymedig
  • Gwybodaeth am sut i ofalu am yr ardd a datblygu’ch sgiliau garddio ymhellach.

Gallwn deilwra’r opsiynau uchod yn unol â’ch dymuniadau chi. Cysylltwch am ddyfynbris a thrafodaeth bellach.

Am wybod mwy?